Psalms 134

Galwad i foli Duw

Cân yr orymdaith.

1Dewch! Bendithiwch yr Arglwydd,
bawb ohonoch chi sy'n gwasanaethu'r Arglwydd,
ac yn sefyll drwy'r nos yn nheml yr Arglwydd.
2Codwch eich dwylo, a'u hestyn allan tua'r cysegr!
Bendithiwch yr Arglwydd!
3Boed i'r Arglwydd, sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
eich bendithio chi o Seion!
Copyright information for CYM